Ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ‘Contract Meddygon Ymgynghorol yng Nghymru: Cynnydd o ran Sicrhau’r Manteision a Fwriadwyd’

 

Rydym yn croesawu argymhellion yr adroddiad a chynigiwn yr ymateb a ganlyn i’r naw argymhelliad o fewn yr adroddiad sy’n dod i Lywodraeth Cymru.

 

 

Argymhelliad 1:

Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi amserlen o’i chamau gweithredu er mwyn dangos arweiniad strategol ar gyfer trefniadau cynllunio swyddi yng Nghymru, gan gynnwys datblygu cyfarwyddyd Cymru-gyfan a sut y mae’n bwriadu dwyn Byrddau Iechyd Lleol i gyfrif am ei weithredu.

 

Ymateb: Derbyn. 

 

Mae swyddogion Llywodraeth Cymru eisoes wedi sefydlu grŵp Gorchwyl a Gorffen, dan gyd-arweiniad Llywodraeth Cymru ac Uned Cyflogwyr y GIG. Sefydlwyd y grŵp ym mis Mai, ac mae’n cynnwys Cyfarwyddwyr Meddygol,  Cyfarwyddwr Gweithlu, Uned Cyflogwyr y GIG, cynrychiolwyr o Gymdeithas Feddygol Prydain (Cymru), a swyddogion o Lywodraeth Cymru. 

 

Datblygwyd cylch gorchwyl y grŵp hwn, a chytuno arno, ym mis Mai 2013.  Mae’n canolbwyntio, yn fwyaf arbennig, ar y camau gweithredu sydd i’w cymryd mewn ymateb i adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru (2013). Bydd y grŵp yn adolygu ac yn diwygio cyfarwyddyd cynllunio swyddi Cymru gyfan a’r ddogfennaeth, gan sicrhau y bydd yn cefnogi’r gwaith o wella a moderneiddio’r ddarpariaeth o wasanaethau.

 

Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y grŵp Gorchwyl a Gorffen ar 4ydd Medi a chynhaliwyd yr ail gyfarfod ar 2il Hydref.  Bydd y grŵp yn adrodd yn ffurfiol ar gynnydd yn y dyfodol agos a chyflwynir y cyfarwyddyd Cymru Gyfan diwygiedig i BMA Cymru i gael sêl bendith y Cyd-bwyllgor Contract Meddygon Ymgynghorol Cymru ar 24ain Ionawr 2014.

 

Ym mis Chwefror 2014, bydd Llywodraeth Cymru yn lansio’r cyfarwyddyd Cymru Gyfan diwygiedig, a bydd hyfforddiant cadarn i gyd-fynd â hyn, ar gyfer pob Cyfarwyddwr Clinigol a Chyfarwyddwr Gweithlu.

 

Bydd yn ofynnol i Fyrddau Iechyd gasglu data cynllunio swyddi a bydd gofyn iddynt ddarparu adroddiad cynnydd strwythuredig i’r Prif Swyddog Meddygol yn flynyddol. Yna, caiff y wybodaeth ei chynnwys yn nhrefniadau Rheoli Ansawdd Llywodraeth Cymru a chaiff eithriadau eu cyfeirio at y Fframwaith Perfformiad a Chyflawni.

 

Mae’r uchod yn gosod allan gerrig milltir allweddol ar gyfer gweithredu. Bydd y grŵp Gorchwyl a Gorffen yn cyhoeddi amserlen fanylach o’r camau gweithredu i’w cymryd at y dyfodol erbyn 31ain Hydref 2013 a chaiff honno ei rhannu gyda’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Swyddfa Archwilio Cymru.

 

 

 

 

Argymhelliad 2:

Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn cydlynu ac yn hwyluso datblygiad fframwaith gwybodaeth gydlynol ar gyfer Cymru-gyfan ar ganlyniadau dymunol i feddygon ymgynghorol.  Dylai hwn gynnwys gweithio gyda sefydliadau amrywiol y GIG, gan gynnwys Byrddau Iechyd, Cymdeithas Feddygol Prydain a’r Cyngor Meddygol Cyffredinol.

 

Ymateb:  Derbyn 

 

Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r argymhelliad hwn a byddwn yn gweithio drwy’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen i gydlynu a hwyluso hyn erbyn diwedd Mawrth 2014.

 

Mae’n rhaid i fframwaith gwybodaeth ddisgrifio sut y dylid defnyddio gwybodaeth mewn ffordd gytbwys er mwyn mesur profiadau cleifion, diogelwch ac ansawdd, cynhyrchiant a’r canlyniadau y mae’r rhaid i feddygon ymgynghorol  eu cyflawni.  Cytunwn fod yn rhaid ymgymryd â’r gwaith hwn gyda phartneriaid fel y disgrifiwyd.

 

 

Argymhelliad 3:

Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid er mwyn gwella’r broses o gynllunio swyddi, gan gynnwys datblygu hyfforddiant priodol i Gyfarwyddwyr Clinigol.

 

Ymateb: Derbyn.

 

Mae BMA Cymru, Uned Cyflogwyr y GIG a Chyfarwyddwyr Meddygol yn rhan o’r grŵp Gorchwyl a Gorffen, sy’n adolygu’r broses cynllunio swyddi, gan gynnwys deunyddiau hyfforddiant perthnasol.  Caiff y gwaith o ddarparu hyfforddiant o’r fath ei adolygu gan y grŵp hwn, yn barod ar gyfer lansio’r cyfarwyddyd Cymru Gyfan ym mis Chwefror 2014.  Bydd yn hyfforddiant gorfodol i Gyfarwyddwyr Clinigol.

 

 

Argymhelliad 4:

Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda sefydliadau’r GIG er mwyn datblygu cyfarwyddyd cenedlaethol ynghylch oriau gwaith meddygon ymgynghorol, a’r camau gweithredu y gall Cyrff Iechyd eu cymryd er mwyn lleihau’r angen am weithio oriau rhy hir. 

 

Ymateb: Derbyn.

 

Bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau y caiff y gofyniad hwn ei gyflawni drwy gydweithio yn y grŵp Gorchwyl a Gorffen.  Caiff yr argymhelliad hwn ei fodloni gan adrannau perthnasol yng nghyfarwyddyd cynllunio swyddi Cymru Gyfan.

 

 

Argymhelliad 5:

Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda sefydliadau’r GIG er mwyn datblygu opsiynau ar gyfer casglu gwybodaeth reoli am gyfanswm yr oriau a weithir gan feddygon ymgynghorol bob wythnos (gan gynnwys gwaith y tu allan i’r GIG). 

 

Ymateb: Derbyn

 

Caiff yr argymhelliad hwn ei fodloni ar gyfer gofal y GIG drwy oruchwylio’r gwaith a ddisgrifir mewn cynllun swydd cytunedig mewn modd effeithiol.  Ni ddylid gweld unrhyw wahaniaeth rhwng y cynllun a’r gwaith a gyflawnir a dylai’r wybodaeth reoli gadarnhau hynny neu ddangos eithriadau.

 

Nid oes darpariaeth o fewn contract meddyg ymgynghorol sy’n galluogi oriau gwaith y tu allan i’r GIG i gael eu mesur. Mae’n rhaid, felly, i’r wybodaeth honno gael ei darparu ar sail wirfoddol.  Mae’r contract yn ei gwneud yn glir na ddylai unrhyw waith arall gael effaith andwyol ar ofal y GIG a dylai trefniadau rheoli a llywodraethu clinigol priodol sicrhau mai felly y mae.  Ymhellach, mae’r broses ail-ddilysu yn ei gwneud yn ofynnol i bob Meddyg Ymgynghorol gael eu harfarnu mewn modd cyfannol ar bob agwedd o’u hymarfer meddygol, gan gynnwys ymarfer yn breifat, gan roi mwy o sicrwydd ynghylch diogelwch y gofal i gleifion y GIG.

 

Bydd y gofyniad i Lywodraeth Cymru weithio gyda sefydliadau’r GIG i ddatblygu opsiynau ar gyfer casglu gwybodaeth reoli am gyfanswm yr oriau a weithir yn cael ei fodloni drwy gydweithio â’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen a Chyfarwyddwyr perthnasol sefydliadau’r GIG. (Meddygol a Gweithlu a Datblygu Sefydliadol).

 

Argymhelliad 6:

O ystyried y diffyg eglurder yng nghyswllt y mater hwn, rydym yn argymell bod Archwilydd Cyffredinol Cymru yn cynnal ymchwiliad gwerth-am-arian i brosesau a gweithdrefnau’r Byrddau Iechyd Lleol ar gyfer cleifion sy’n symud rhwng darpariaeth breifat a darpariaeth y GIG.

 

Ymateb:        Mater i Archwilydd Cyffredinol Cymru yw hwn.

 

Argymhelliad 7:

Yr ydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi amserlen ddynodol ar gyfer ei gwaith i ddatblygu diffiniadau a chyfarwyddyd Cymru-Gyfan mewn perthynas ag amcanion Gweithgareddau Proffesiynol Ategol.  Dylai hyn sicrhau gwell eglurder o ran y math o Weithgareddau Proffesiynol Ategol y mae eu hangen, a galluogi mesur a dangos eu gwerth.

 

Ymateb: Derbyn.

 

Caiff yr argymhelliad hwn ei fodloni gan yr amserlen a gyhoeddir y cyfeirir ati yn yr ymateb i argymhelliad 1 uchod.  Bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau y bydd y cyfarwyddyd Cymru Gyfan yn cynnwys paragraffau digonol ar amcanion yng nghyswllt Gweithgareddau Proffesiynol Ategol a sut yr eir ati i fesur eu gwerth.  Yn nodweddiadol, gallai Gweithgareddau Proffesiynol Ategol gynnwys gweithgareddau mewn perthynas â; Datblygiad Proffesiynol Parhaus, Archwilio, addysgu/hyfforddiant o fewn rhaglenni penodol a gweithredu fel Arfarnwr gyda nifer gytunedig o arfarniadau.

 

Argymhelliad 8:

Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod ei gwaith yn diwygio’r deunydd hyfforddi Cymru-gyfan ar gyfer cynllunio swyddi’n cynnwys pwysleisio pwysigrwydd defnyddio cynllunio swyddi fel cyfle i drafod moderneiddio’r gwasanaeth a gwella arferion clinigol a gofal i gleifion. 

 

Ymateb: Derbyn. 

 

Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn y dylai deunydd hyfforddi Cymru Gyfan a’r cyfarwyddyd ar gynllunio swyddi hwyluso’r trafodaethau ynghylch moderneiddio’r gwasanaeth a gwella arferion clinigol.

 

Câi’r pwynt penodol hwn ei gynnwys yn y cyfarwyddyd a’r ddogfennaeth cynllunio swyddi diwygiedig, sy’n cael eu hadolygu ar hyn o bryd gan y grŵp Gorchwyl a Gorffen.

 

 

Argymhelliad 9:

Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn cyflwyno diweddariadau blynyddol i ni ar ei gwaith gyda’r byrddau iechyd a’r ddeoniaeth er mwyn datblygu a gweithredu strategaethau penodol ar gyfer recriwtio meddygon ymgynghorol arbenigol i roi sylw i brinder gweithlu ac arbenigedd. 

 

Ymateb: Derbyn.

 

Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn yr argymhelliad a bydd yn darparu diweddariad blynyddol ar ddiwedd pob blwyddyn ariannol.

 

Y Byrddau Iechyd Lleol a’r Ymddiriedolaethau sy’n gyfrifol am recriwtio meddygon ymgynghorol. Byddwn yn dal y Byrddau Iechyd Lleol a’r Ymddiriedolaethau i gyfrif drwy eu cynlluniau gweithlu at y dyfodol a hwyluso, pryd bynnag y bo modd, broses o gynllunio gweithlu ar draws y Byrddau Iechyd Lleol a’r Ymddiriedolaethau, yn unigol ac ar y cyd, er mwyn ymdrin ag unrhyw brinder.

 

Byddwn yn gweithio â’r Ddeoniaeth i sicrhau yr eir ati mewn modd strategol i ddyrannu swyddi hyfforddiant arbenigol i sicrhau bod y cynlluniau hyfforddi yn gydnaws â gofynion recriwtio gweithlu'r Byrddau Iechyd Lleol a’r Ymddiriedolaethau.  Bydd yr adolygiad gan yr Athro David Greenaway, sef ‘The Shape of Training’ sydd i’w gyhoeddi ddiwedd mis Hydref hefyd yn goleuo’r dull strategol hwn o weithio.

 

Bydd y diweddariadau blynyddol yn cynnwys cyfeiriad at y gwaith a wnaed gan y Ddeoniaeth i ddatblygu enw da Cymru a’i wneud yn lle deniadol i feddygon weithio, gan gydnabod nad ydynt yn ymwneud yn uniongyrchol â’r gwaith o recriwtio meddygol ymgynghorol.